NO EU /ROW POSTAGE - SORRY! (You will be refunded if you purchase)
DATBLYGU - TERFYSGIAITH 1982-2022 (ankst160)
3 CDs / 60 Tracks /20 exclusives /48 page exclusive photos/hardback etc...
SHIPPING/ALLAN - MAWRTH 1 MARCH 2023 St David Datblygu's Day
Physical record shops through SHELLSHOCK DISTRIBUTION
MORE PRODUCT DETAILS INCOMING
MWY O WYBODAETH I DDILYN AM Y CASGLIAD
Datblygu, heb os, yw'r grŵp roc Cymraeg sydd wedi cael y mwyaf o ddylanwad ar ddiwylliant Cymraeg dros y deugain mlynedd diwethaf. Yn ysbrydoliaeth glir ar genhedlaeth Cool Cymru (Super Furry Animals, Gorky's Zygotic Mynci, Catatonia), yn ffefrynnau ar Sioe Radio John Peel, ac yn gadarn fel enaid barddonol a cherddorol diwylliant roc tanddaearol Cymraeg ar ddiwedd yr 20fed ganrif.
Mae TERFYSGIAITH 1982-2022 yn gasgliad o gerddoriaeth a recordiwyd gan David R.Edwards a Pat Morgan fel Datblygu dros y deugain mlynedd hynny. Gan ddechrau gyda recordiadau ystafell wely gyntaf David yn Aberteifi ym 1982 hyd at y traciau terfynol a recordiwyd gan Pat a David gyda’i gilydd mewn ystafell fyw foel mewn llety gwarchod a redir gan y cyngor yng Nghaerfyrddin yn 2021. Casgliad o luniwyd allan o restrau o hoff draciau Datblygu a ddewiswyd gan David a Pat fel rhan o baratoiadau y ddau ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu pen-blwydd y band yn cyrraedd 40 mlynedd o fodolaeth yn 2022. Rhan o broses a fyddai wedi bod yn gyfle i’r band gael ei gydnabod yn gyhoeddus am y dylanwad pwysig y mae eu gwaith a’u celfyddyd wedi’i gael dros y degawdau ar ddiwylliant cyfoes yma yng Nghymru.
Yn anffodus, ni ddigwyddodd hyn yn ôl y cynllun gwreiddiol. Ym mis Mehefin 2021 bu farw David R.Edwards, prif leisydd a chyfansoddwr caneuon Datblygu, ffigwr hynod annwyl ac uchel ei barch yng Nghymru.
Mae TERFYSGIAITH 1982-2022 yn cynnwys 60 o draciau dros dair disg. Mae dau o’r rhain yn ddisgiau ‘goreuon ’cronolegol. Roedd David wastad yn deud fod diwylliant Cymraeg yn un a oedd yn gwneud i chi ddweud yr un peth ddwywaith! Ond dim ond unwaith y dywedodd Datblygu unrhywbeth, roedd yn ddigon a dim ond erioed yn yr iaith Gymraeg. Y drydedd disg yw ‘Santes Dwynwen o’r Elsey’, albwm o draciau prin, byw, demo a sesiwn sydd ar gael fel egsgliwsif gyda’r casgliad yma.
DATBLYGU - TERFYSGIAITH 1982-2022 (ankst160)
3 CDs / 60 Tracks /20 exclusives /48 page exclusive photos etc...
SHIPPING /ALLAN - MAWRTH 1 MARCH 2023 St David Datblygu's Day
MORE PRODUCT DETAILS INCOMING - MWY O WYBODAETH I DDILYN
Datblygu are undoubtedly the most influential Welsh language group of the last forty years. A clear inspiration on the Cool Cymru generation (Super Furry Animals, Gorky's Zygotic Mynci, Catatonia), firm John Peel Radio Show favourites, and the poetic and musical soul of late 20th century underground Welsh language rock culture.
TERFYSGIAITH 1982-2022 is a compilation of the music made by David R.Edwards and Pat Morgan as Datblygu over those forty eventful years.
Starting with David's first bedroom recordings in Aberteifi in 1982 right up to the final tracks recorded by Pat and David together for the last time in a bare living room in council run sheltered accommodation in Carmarthen in 2021.
Compiled from lists of favourite Datblygu tracks chosen by David and Pat in anticipation of their upcoming 40th anniversary activities as a band in 2022, TERFYSGIAITH 1982-2022 was to be one part of a process that would have been an opportunity for the band to be publicly recognised for the important influence their work and artistry has had over the decades. Sadly, this didn’t happen as originally planned. In June of 2021 David R.Edwards, Datblygu’s lead singer and songwriter, a hugely loved and respected figure in Wales, suddenly passed away.
TERFYSGIAITH 1982-2022 contains 60 tracks spread over three disks. Two of these are complimentary chronological ‘best-of’ disks. David always joked that Welsh culture was one that made you learn how to say the same thing twice! Datblygu, on the other hand only ever said it once, it was enough and only ever in the Welsh language. The third disk is ‘Santes Dwynwen o’r Elsey’ an album of rarities, live, demo and session tracks made available exclusively with this release.
Mwy o wybodaeth cefndir
Gallwch ollwng y nodwydd unrhyw le dros gatalog Datblygu a bod wyneb yn wyneb â David R.Edwards ar unwaith. Ei lais gwrthryfelgar, gonest a thosturiol yn cynddeiriog yn brwydro yn erbyn y drefn. Sylweddolwch ar unwaith mai dyma rywun â rhywbeth i’w ddweud, bob amser yn cyfleu gwirionedd, fel y mae Pat wedi’i ddweud o’r blaen ‘cenhadwr.’ Mae dawn ac arddull David yn un barddonol. Geiriau sydd bob amser yn boenus o uniongyrchol, yn hyfryd o
farddonol, yn heriol, yn feiddgar, ysgytwol weithiau, yn arloesol yn gerddorol ac yn aml waith yn ddoniol iawn hefyd.
Dydych chi byth yn amau bod David a Pat bob amser yn bod yn driw iddyn nhw eu hunain – mae hyn yn bwysig iawn. Nid oes byth unrhyw deimlad fod Datblygu yn ceisio plesio eraill, neu ‘going through the motions’. Roeddent yn mynnu bod y byd ehangach yn talu sylw ac yn gwrando arnynt. Y sîn Gymraeg ynysig oedd y byd ehangach hwnnw i ddechrau, ac mae’n amhosib gorbwysleisio’r effaith y mae bodolaeth Datblygu wedi’i chael ar wrthdroi’r diwylliant pop diflas ceidwadol a fodolai pan ffurfiwyd hwy ar ddechrau’r 1980au.
Mae taith Datblygu wedi bod yn hir ac ar adegau yn un anodd a phoenus ond yn llawn uchafbwyntiau rhyfeddol – albyms clasurol fel Wyau (1988), Pyst (1990) a Libertino (1993), y sesiynau gwych ar gyfer Sioe Radio John Peel ar Radio 1, ymddangosiadau byw a oedd bob amser yn drydanol a bythgofiadwy, ac wrth gwrs dwsinau o ganeuon hynod fel Y Teimlad, Can i Gymry, Cariad Ceredigion, Ugain i Un a Cyn Symud i Ddim.
Mae’n wych sylweddoli bod band a ffurfiwyd yn yr ysgol yn ôl yn 1982 gyda’r bwriad pendant o weithredu, fel y dywedasant yn glir ar y pryd, fel adwaith i’r cerddoriaeth sy’ wedi bod yn golchi ymenyddiau y rheini sy’n dewis dilyn y dall hefyd ar restrau byr yr albyms Cymraeg gorau y flwyddyn ym mhobman yn 2021 ar gyfer y weledigaeth ryfeddol Cwm Gwagle - albwm a recordiwyd ganddynt ar drothwy’r cloi Covid cyntaf. Rhwng y ddau bwynt yma maen nhw wedi creu catalog o gerddoriaeth mor gyfoethog a hynod ag unrhyw fand yn unrhyw le erioed.
Oherwydd natur gwrthsefydliadol ei ganeuon a’r berfformiadau tanllyd ar lwyfan cafodd David ei weld fel rhyw fath o gydwybod foesol i’r genhedlaeth newydd a oedd yn tyfu i fyny yng Nghymru yn yr 1980au a’r 1990au. Hefyd gyda’i allu barddonol unigryw yn cael ei gydnabod fe goronwyd yn brif fardd amgen y genedl a eiconoclast mwyaf Cymru. Heb os, mae cerddoriaeth Datblygu yn ysbrydoledig. Mae'r casgliad hwn yn dyst i hyn.
Maen nhw wedi ysgrifennu caneuon clasurol syml am ddirgelwch cariad, traciau ‘rave’ gwych sy’ mor llawn o ddelweddau barddonol fel y byddai'n gwneud i Rimbaud gochi; wedi recordio gweithiau arbrofol mor ddwfn a llawn ystyr ag unrhyw dudalen allan o Ulysseus Joyce yn ogystal â digon o traciau pop a roc tri munud sydd wedi dymchwel mwy o fuchod cysegredig a chelwyddau y sefydliad yn well na ymdrechion unrhyw drydarwr blin a swnllyd hunan bwysig ein hoes digidol.
Maen nhw wedi gwneud a wedi bod yn gymaint o bethau a hefyd dim ond erioed yn un peth - Datblygu. Pan ofynnwyd iddynt hunan-ddiffinio – galwasant eu hunain yn ‘anghydffurfwyr anghydffurfiol’ a ofynnodd i’w cerddoriaeth gael ei chatalogio o dan y categori ‘Non-Hick’. Grŵp chwedlonol.
SENGL - AM/HAWDD FEL BORE LLUN - 25.01.2023
Cyn hynny bydd y sengl AM / HAWDD FEL BORE LLUN yn cael ei rhyddhau ar ddiwrnod Santes Dwynwen (Ionawr 25ain) fel tamaid i aros pryd. Mae’r sengl yn cynnwys un o glasuron oesol y grwp, sef y gân AM oddiar yr albym PYST a thrac o 1996 sy’n gweld golau dydd am y tro cyntaf HAWDD FEL BORE LLUN.
Mae’r cyfuniad yma o ffefrynnau a thraciau egsgliwsif yn adleisio natur y casgliad TERFYSGIAITH 1982-2022 sydd yn cynnwys 60 o draciau gan y grwp – gyda 20 o rhain yn exclusives.
Mae Ankstmusik hefyd wedi creu fidio arbennig iawn ar gyfer AM sydd yn cyfuno casgliad o ddelweddau a ffotos personol o archif y grwp. Bydd y fideo sydd wedi ei golygu gan Al Edwards gyda chymorth archif Pat Morgan a Pete Telfer i’w gweld ar sianel Ankstmusik ar blatfform AM - www.amam.cymru/kinoankst - ar Ionawr 25ain
FURTHER INFO........
You can drop the needle anywhere over Datblygu’s catalogue and at once be face to face with David R.Edwards. His rebellious, honest and compassionate voice raging against the norm. You realise that here is someone with something to say, always communicating a truth, as Pat has said before ‘a man on a mission.’ How David says these things, his lyrical poetry is always astonishingly direct, beautifully poetic, challenging, daring, shocking
sometimes, musically innovative and often very funny. You never doubt that David and Pat are always being true to themselves – this is very important. There is never any sense of Datblygu trying to please others, or going through the motions. They demanded that the wider world paid attention and listened to them. That wider world initially was the insular Welsh language scene, and it is impossible to overstate the effect Datblygu’s existence has had on reversing the backward-looking pop culture that existed when they formed in the early 1980s.
Datblygu’s journey has been long and at times very difficult and painful but full of extraordinary highlights – classic albums like Wyau (1988), Pyst(1990) and Libertino(1993), those wonderful John Peel Radio Sessions, live appearances that were always electric, unpredictable and unforgettable, and just dozens of extraordinary songs like Y Teimlad, Can i Gymry, Cariad Ceredigion, Ugain i Un and Cyn Symud i Ddim.
How inspiring is it to realise that a band formed in school back in 1982 with the express intention, as they clearly said at the time, of directly challenging the brain-washing music blindly tolerated by those around them were also on the best Welsh albums shortlists everywhere in 2021 for the extraordinary vision that is Cwm Gwagle, an album recorded by them on the eve of the first Covid lockdown. Between these two points they have created a catalogue of music as rich and extraordinary as any band anywhere ever has.
The confrontational nature of David’s song writing and performance style saw him becoming seen as some sort of moral conscience for the new generation growing up in Wales in the 1980s and 1990s and his poetic brilliance saw him being revered as a visionary artist and hailed as the alternative national poet and Wales’s premier iconoclast. Datblygu’s music is undoubtedly inspiring. This compilation is ample testament to their power. They’ve written simple classic songs about the mystery of love, rave tracks so full of poetic imagery that it would make Rimbaud blush, recorded experimental works as deep with meaning as any page out of Joyce’s Ulysseus as well as plenty of genius three-minute pop and rock tracks that have demolished more sacred cows and establishment lies than a room full of angry tweeters ever could.
They’ve done and been so many things and also only ever been one thing – Datblygu. When asked to self-define – they called themselves ‘non-conforming non-conformists’ who asked for their music to be catalogued under the category 'Non-Hick'. True legends.
SINGLE - AM /HAWDD FEL BORE LLUN - JANUARY 25 2023
Ankstmusik is proud to announce that the Datblygu single AM /HAWDD FEL BORE LLUN will be released on Santes Dwynwen Day (January 25th). This single is a prelude to the appearance of TERFYSGIAITH 1982-2022.
The single includes one of the band’s classic songs – AM – from the PYST album and an exclusive track from 1996 , HAWDD FEL BORE LLUN appearing for the first time anywhere here on this single.
This combination of classic track and exclusive material echoes the nature of the upcoming retrospective which features 60 band tracks - with 20 of them being exclusives.
We have also produced a promo video for AM created from a collection of personal images from the band’s archive as a reminder of the band’s unique legacy and in tribute to the much missed Datblygu frontman David R. Edwards.
Ankstmusik would like to thank video editor Al Edwards for creating the video and Pat Morgan and Peter Telfer for opening up their personal archives for images.
7'' BUNDLE - DATBLYGU (''Putsch'') + KLAUS KINSKI (Datblygu cover 'Gwlad ar Fy Nghefn')
Sold Out
GERAINT JARMAN 4 CD Cariad Cwantwm/Cwanwm Dub/Tawel Yw'r Tymor/Dwyn yr Hogyn Nol /Cynnig arbennig /special offer
£16 GBP
RHEINALLT H.ROWLANDS - 12" vinyl BUKOWSKI
£15 GBP
RHEINALLT H.ROWLANDS - 3 x CD ALBUMS - BUKOWSKI/HEN DAID BRAN/III
£15 GBP
Gorky's Zygotic Mynci - 2 x CD singles GAME OF EYES/AMBER GAMBLER E.P.
£9 GBP
Zabrinski - 3 x CD Album (Ltd/Prin) YETI /KOALA KO-ORDINATION/ ILL GOTTEN GAME
£15 GBP
SPECIAL PRICE! 12'' Vinyl - GWALAXIA:BELLEVILLE 1315 / MACHYNLLETH 1404 by FFRANCON
£9 GBP
STOCKROOM BUNDLE 2 Pecyn o 3 x CD Ankst / 3 x Ankst cd releases - Klaus Kinski/Wendykurk/Parking Non-Stop
£15 GBP
STOCKROOM BUNDLE - 3 x Ankst CD albums - THE STILLETOES/SPANISH DANCE TROUPE/DOCFEISTR
£15 GBP
LLWYBR LLAETHOG - 2 x CD(new) HIP DUB REGGAE HOP(1985-2000) / MAD!
£12 GBP
Datblygu - Cwm Gwagle 12'' vinyl – Datblygu - CD Offer - 3 albums 1985-1995/THE EARLY TAPES/PORWR TRALLOD
£20 GBP
Welsh Tourist Bored+ by/gan Traddodiad Ofnus - 2 x CD + Digibook 36page
£11 GBP
Super Furry Animals - Llanfair(in space)EP Original 1995 2nd pressing/gwasgiad
Sold Out
Copiau Prin/Very Ltd Copies - Original Ankst 12'' - REU(MICS)(1992) gan/by Tŷ Gwydr
Sold Out
TYSTION - 12" - M.O.M.Y.F.G. ( sengl gwreiddiol /original FITAMIN UN Single) 2002
Sold Out
RHIF 2 - Traddodiad Ofnus 12" (original)
Sold Out
S4C MAKES ME WANT TO SMOKE CRACK Vol 2 - CD Compilation EP (Ankst070) Melys /Topper/David Wrench /Rheinallt H.Rowlands)
Sold Out
MELYS - FRAGILE EP ( Ankst 072)
£7 GBP
ECTOGRAM - 12''double vinyl - I CAN'T BELIEVE IT'S NOT REGGAE!
£10 GBP
ECTOGRAM CD Album offer / cynnig albyms I CAN'T BELIEVE IT'S NOT REGGAE!/ ALL BEHIND THE WITCHTOWER/TALL THINGS FALLING + SPOONICON EP
£15 GBP
CRYMI - Issue #1 DVD-ZINE (2000-1) by Emyr Glyn Williams ( Ltd /Copiau prin ar gael)
£10 GBP
Datblygu - Peel Sessions (ankst119) CD ltd copies left/nifer prin y weddill
£15 GBP
DATBLYGU - Wyau/Pyst CD ( 2 albums on one cd original copies/gwreiddiol)
£15 GBP
GWALAXIA:BELLEVILLE 1315 / MACHYNLLETH 1404 by FFRANCON –
GWALAXIA Fersiwn ar gryno ddisg / Limited Edition Compact Disk
Ffrancon
£7 GBP
Ltd Vinyl - 2 x ECTOGRAM 7" singles - MARY(1995) +ELIOT's VIOLET HOUR(1997)
£5 GBP
Datblygu - Cwm Gwagle 12'' vinyl – Datblygu - Limited Edition 12'' vinyl / Albym feinyl cyfyngiedig
£15 GBP
FFLAPS (1992) by/gan FFLAPS –
FFLAPS (1992) 12'' vinyl/feinyl
FFLAPS
Sold Out
Datblygu - Cwm Gwagle 12'' vinyl – Datblygu - Cwm Gwagle+Porwr Trallod 12''
Sold Out
TYSTION - 3 x CD - Hen Gelwydd Prydain Newydd /Toys E.P / Shrug Off Ya Complex!
£15 GBP
DAVID WRENCH - BLOW WINDS BLOW - CD
£10 GBP
ANNALOGUE - 12'' album - BROCKEN SPECTRE
£12 GBP
JOHN LAWRENCE/INFINITY CHIMPS(ex Gorky's) - Solo 12'' album - SOUNDS OF NANT Y BENGLOG
£12 GBP
MC MABON - 4 x CD ALBUMS(new) - Mr Blaidd /The Hunt For Meaning/Nia Non/Sesiynau Radio
£15 GBP
FAUST - Nobody Knows If It Ever Happened (a concert film) DVD (ankst117) Nifer cyfyngiedig iawn ar ol / Last copies
£12 GBP
WYAU Datblygu Ltd Vinyl
Sold Out
Gorky's Zygotic Mynci - 10'' Vinyl AMBER GAMBLER E.P. (ANKST68) orig pressing
£9 GBP
PYST Datblygu Ltd vinyl
Sold Out
TYSTION Brewer Spinks EP 12''vinyl
£7.50 GBP
Streaming and Download help