ALL PROCEEDS FROM THIS ALBUM GO TO THE DEC RED CROSS APPEAL IN UKRAINE
MAE HOLL ELW YR ALBYM YMA YN MYND DRAW I APEL DEC RED CROSS AR GYFER YR WCRAIN
EARTH (1930) Soundtracked live by R.SEILIOG 27.03.2022
Cinemas throughout the UK have been supporting the Disaster Emergency Committee's Ukrainian Humanitarian Crisis Appeal with fundraising screenings and celebrations of Ukraine's cinematic heritage.
At the Pontio cinema in Bangor Welsh musician Robin Edwards played a live score to a screening of the classic EARTH to raise funds for the appeal.
EARTH by Alexander Dovzhenko is undoubtedly the pinnacle of Ukrainian cinema. Robin Edwards originally performed his electronic score live as part of the Psylence Film and Music Festival back in 2017.
Robin's original and modern sounding composition is so in step with Dovzhenko’s vision and philosophy that it makes this film truly come ‘alive’ for the audience on a direct, emotional level. The film shows us Ukrainian peasant life in all its richness, changing from rural agriculture into Stalin’s technological age of collectivisation at the start of the twentieth century. The film is extraordinarily beautiful and poetic, and exists as a paean to the cycle of life and death and the power of nature, to Ukraine, to the land and to the people who belong to it.
Thank you for downloading and supporting us.
To watch the film with Robin's soundtrack - follow the link
youtu.be/JmmtSSLTfL0
EARTH (1930) gyda trac sain byw gan R.SEILIOG 27.03.2022
Mae sinemâu’r Deyrnas Unedig wedi dod ynghyd i gefnogi Apêl Argyfwng Dyngarol Wcráin y Disaster Emergency Committee gyda chyfres o ddangosiadau i godi arian a dathlu treftadaeth sinematig Wcráin.
Yn sinema Pontio yn Bangor fe ddangoswyd y ffilm EARTH gyda trac sain byw gan y cerddor electroneg o Gymru Robin Edwards (R.Seiliog) fel rhan o'r ymgyrch.
Mae EARTH yn bendant yn binacl ar sinema o'r Wcrain. Yn wreiddiol, perfformiodd Robin Edwards sgôr electronig fyw ar gyfer y clasur hwn fel rhan o’n Gŵyl Psylence ni nôl yn 2017.
Mae cyfansoddiad gwreiddiol a modern Robin yn cyd-fynd yn berffaith â gweledigaeth ac athroniaeth Dovzheenko ac yn gwneud i'r ffilm ddod yn 'fyw' i'r gynulleidfa ar lefel uniongyrchol, emosiynol. "Yn y ffilm hon dangosir bywyd gwerinol Wcrain i ni, yn ei holl gyfoeth yn newid o amaethyddiaeth wledig i oes 'collectivization' Stalin ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Mae'n arbennig o hardd a barddonol, ac yn bodoli fel mawlgan i gylch bywyd a marwolaeth a phwer byd natur, i'r tir ac i'r pobl sy'n perthyn iddo.
Mae hi'n bosib i chi wylio y ffilm gyda thrac sain arbennig Robin yma
youtu.be/JmmtSSLTfL0